Tudalen Gwneud Cais i fod yn rhan o Gynllun Organig Cymru

Gwneud cais am ardystiad – cliciwch i gael mwy o wybodaeth

Sut i Wneud Cais:

1. Cysylltwch â ni i gael Pecyn Cais.

2. Darllenwch ein Safonau Cynllun Organig.

3. Cwblhewch a dychwelwch y dogfennau cais ynghyd â thaliad neu fandad Debyd Uniongyrchol wedi'i gwblhau.

4. Pan fydd y cais yn cael ei dderbyn gan QWFC byddwn yn ei adolygu. Os na fydd angen mwy o wybodaeth arnom, bydd y cais yn cael ei drosglwyddo i asesydd.

5. Bydd asesydd yn cysylltu â chi i drefnu dyddiad ar gyfer cynnal yr archwiliad.

 

Corff Rheoli Organig presennol, cysylltwch â ni a byddwn yn anfon y ffurflen symud berthnasol atoch chi.

Cofiwch gysylltu â ni os ydych chi eisiau sgwrs am y broses ardystio neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill. Rydym bob amser yn barod i helpu.

Croeso i Wefan Cynllun Organig Cymru...

Mae Cynllun Organig Cymru yn eiddo i gwmni Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru – WLBP Ltd, ac mae wedi'i achredu gan UKAS a dyma'r cynllun mwyaf ar gyfer ffermwyr organig yng Nghymru.

Wedi'n sefydlu yn 2003, rydym yn falch o ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr a chyfeillgar i ffermwyr organig yng Nghymru gan gynnal proses archwilio ac ardystio drylwyr hefyd.

Rydym yn gynllun dwyieithog a gallwn gynnig y fantais o gyfuno archwiliadau i aelodau o gynlluniau eraill fel y Cynllun Gwarant Fferm Da Byw.

Amdanom Ni
About Us
Quarantine

Cofnodion Fferm

Mae’r cyfleuster Cofnodion Fferm ac Iechyd Anifeiliaid ar gael i'r holl gynhyrchwyr sy’n rhan o Gynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL) cig eidion a chig eidion WLBP, cynlluniau llaeth a chynllun Organig Cymru. Os ydych chi’n gynhyrchwr neu'n filfeddyg ac angen mynediad i'r cyfleuster, cliciwch isod i gofrestru.

COFRESTRU
Market Prices

Cynlluniau

Mae Cynhyrchwyr Cig Oen ag Eidion Cymru (WLBP) yn cynnal ac yn berchen ar nifer o gynlluniau o fewn y diwydiant. Mae WLBP yn ymdrechu i wella hyder y defnyddwyr drwy warantu safonau ffermydd iddynt drwy’r Cynllun Gwarant Fferm Da Byw ar gyfer Cig Eidion a Chig Oen. Mae’r Ardystiad Bwyd Cymreig o Ansawdd – QWFC Ltd yn ardystio aelodau o’r Cynllun Gwarant Fferm Da Byw, Cynllun Organig Cymru a Chynllun Gwarant Ffermydd Llaeth Cenedlaethol Red Tractor. I ddarganfod mwy, cliciwch ar y dolenni i fynd ar wefannau'r cynlluniau.

Organic Classifieds Image

Hysbysebion Organig

Cliciwch isod i weld a phostio Hysbysebion Organig.

DARLLEN MWY
Online Records Service

Newyddion

Yma gallwch ddod o hyd i'r holl Newyddion a'r straeon diweddaraf am y diwydiant ac Organig Cymru.

DARLLEN MWY

Cysylltu â Ni

Ffôn: 01970 636 688
E-bost: info@wlbp.co.uk

Welsh Lamb & Beef Producers Ltd
Blwch Post 8, Gorseland
Ffordd y Gogledd, Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2WB